Offerynnau Statudol gydag Adroddiadau Clir
22 Mai 2017
SL(5)105 – Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012.
Mae rheoliad 2 yn disodli’r gofyniad bod cais am gydsyniad adeilad rhestredig yn dod gyda datganiad dylunio a mynediad. Yn lle hynny, bydd yn rhaid cyflwyno datganiad o’r effaith ar dreftadaeth gyda phob cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth. Mae hefyd yn ychwanegu at y ddarpariaeth bresennol ynghylch y ffurf a’r dull ar gyfer hawlio digollediad, i gynnwys cyfeiriad at hawliadau sy’n codi o dan adran 28B (digollediad am golled neu ddifrod a achoswyd gan warchodaeth interim) ac adran 44D (hysbysiadau stop dros dro: digolledu), ill dwy o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
Deddf Wreiddiol: Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
Fe’u gwnaed ar: 4 Mai 2017
Fe’u gosodwyd ar: 8 Mai 2017
Yn dod i rym ar: Yn unol â Rheoliad 1(3)
SL(5)106 – Gorchymyn Adeiladau Rhestredig (Gwaith Brys) (Cyfradd Llog ar Dreuliau) (Cymru) 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Mae adran 54 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“Deddf 1990”) yn galluogi awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru i wneud gwaith yr ymddengys iddynt ei fod yn angenrheidiol ar frys er mwyn diogelu adeiladau rhestredig.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r gyfradd llog ar dreuliau y caniateir i awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru eu hadennill o dan adran 55 o Ddeddf 1990 mewn perthynas â gwaith o’r fath.
Deddf Wreiddiol: Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
Fe’i gwnaed ar: 4 Mai 2017
Fe’i gosodwyd ar: 8 Mai 2017
Yn dod i rym ar: 31 Mai 2017
SL(5)107 – Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 1991 at ddiben gweithredu newidiadau a wnaed i Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (“Deddf 1979”) gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.
Deddfau gwreiddiol: Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979; Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016
Fe’u gwnaed ar: 4 Mai 2017
Fe’u gosodwyd ar: 8 Mai 2017
Yn dod i rym ar: 31 Mai 2017
SL(5)108 – Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Adolygu Penderfyniadau Cofrestru) (Cymru) 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n berthnasol i adolygiadau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’u penderfyniad i gynnwys heneb ar y gofrestr o henebion a lunnir ac a gynhelir ganddynt o dan adran 1 o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979; neu, yn achos heneb a nodir ar y gofrestr honno drwy gyfeirio at fap a gynhelir gan Weinidogion Cymru, i wneud diwygiad sy’n ychwanegu at yr arwynebedd a ddangosir ar gyfer heneb ar y map hwnnw.
Deddf Wreiddiol: Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979
Fe’u gwnaed ar: 4 Mai 2017
Fe’u gosodwyd ar: 8 Mai 2017
Yn dod i rym ar: 31 Mai 2017
SL(5)109 – Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Cymru) 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig, ac ar gyfer rhoi’r cydsyniad hwnnw, gan gynnwys gweithdrefn symlach ar gyfer gwneud ceisiadau.
Deddf Wreiddiol: Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979
Fe’u gwnaed ar: 4 Mai 2017
Fe’u gosodwyd ar: 8 Mai 2017
Yn dod i rym ar: 31 Mai 2017